Bygythiad Brexit i’n cymunedau dosbarth gweithiol

Leanne Wood

Medi 2018

Does gan Brexit fawr ddim i’w wneud ag Ewrop.

Mae ganddo bopeth i’w wneud â‘r rhaniadau o fewn y Blaid Dorïaidd. Mae ganddo bopeth i’w wneud â phobl sydd heb fawr i golli yn cicio sefydliad sydd wedi eu methu. Mae ganddo bopeth i’w wneud â narcissists fel Boris Johnson a Farage yn dweud celwydd ar ben celwydd wrth geisio hyrwyddo’i hunain.

Er hyn, bydd Cymru’n dal i wynebu’r canlyniadau cymdeithasol ac economaidd trychinebus o gael ein llusgo oddiwrth Ewrop.

Dyw “Brexit yn golygu Brexit” mewn gwirionedd yn golygu dim. Ond dyma’r math o ddadlau gwag sydd wedi’n gadael ni o fewn dyddiau o adael yr Undeb Ewropeaidd a dim math o gynllun ymarferol.

Nid yw’n ymddygiad arferol i ymfalchïo mewn rhybudd y gallai eich methiannau eich hun arwain at brinder bwyd, meddygaeth ac ynni. Dros yr haf, fodd bynnag, dyna ry’n wedi’i weld – mae llywodraeth Torïaidd San Steffan yn rhybuddio y bydd Dim Cytundeb yn golygu’r math o gynllunio y byddwn yn ei ddisgwyl adeg rhyfel.

Mae’r Brexitwyr yn hoff iawn o ramantu am ysbryd yr Ail Ryfel Byd – efallai fod y rhamantu hefyd yn cynnwys defnyddio llyfrau dogni a blackouts.

Llymder

Os cawn ni gytundeb ai peidio, bydd biliynau’n cael eu gwasgu o’r economi, swyddi’n cael eu colli a chyflogau’n crebachu.

Nid swyddi bras colofnwyr y Telegraph na bancwyr fydd yn cael eu colli. Fel y degawd o lymder a fu, nid y rhai a greodd yr anhrefn fydd yn ysgwyddo’r baich.

O Abertawe i Brestatyn, o Gaerdydd i Geredigion, pobl dosbarth gweithiol fydd yn talu am strancio Sefydliad sydd wedi arwain at Brexit – a’r math o Brexit sy’n cael ei arddel.

Mae llymder eisoes yn lladd ein cymunedau ac yn llythrennol lladd llawer o’n dinasyddion ar yr incwm isaf.

Gyda biliynau o bunnoedd yn cael eu colli o economi Cymru, bydd Brexit yn atgyfnerthu Llymder. Mae’r ddau yn rhedeg law yn llaw.

Brexit y Biliwnydd 

Rydyn ni’n bwrw ymlaen â Brexit y Biliwnydd.

Mae cronfa gyfalaf Rees-Mogg yn symud i Iwerddon. Mae Redwood yn cynghori ei gleientiaid yn y Ddinas i symud eu harian i’r UE. Ac mae Farage yn cael pasbortau Almaeneg iddo ef a’i deulu.

Bydd gadael Ewrop yn fuddiol iawn i’r rhai sydd am elwa drwy bedlera celwydd Brexit wrth fynd ar ôl dyfodol o drethi isel iddynt hwy a’u ffrindiau.

Wrth i’r UE gyflwyno mesurau atal osgoi treth, ar yr un pryd â thorri trethi mewn ymdrech i gadw busnesau mawr, ni allwn adael i’r rhai breintiedig a fydd yn elwa o Brexit eithafol y Toriaid arwain y gweddill ohonom dros y dibyn.

Mae’n rhaid i’r cymunedau a’r teuluoedd sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan gytundeb eithafol – neu ddim cytundeb o gwbl – fod â’r hawl i’w wrthod.

Pleidlais y Bobl – cymryd penderfyniad democrataidd

Mae Pleidlais y Bobl yn cynnig ffordd i osgoi’r anhrefn hwn, ffordd i osgoi difrod trychinebus Brexit y Biliwnydd a fydd yn digwydd os awn ni lawr y llwybr presennol.

‘Gwrth-ddemocrataidd’ yw’r floedd yn erbyn y rhai ohonom sy’n cefnogi Pleidlais y Bobl. Sut y gall mwy o bleidleisio, mwy o ddemocratiaeth a mwy o lais i’r bobl fod yn ‘wrth-ddemocrataidd’?

Mae llawer o bobl yn fwy gwybodus nawr nag oeddent pan gynhaliwyd refferendwm Brexit. Mae gallu gweld sut mae’r Torïaid wedi ymdrin â’r trafodaethau, a gallu gweld celwydd noeth y Brexitwyr yn siŵr o olygu y bydd pobl yn trin refferendwm ar y fargen olaf mewn ffordd wahanol iawn i’r refferendwm aros / gadael.

Nawr bod mwy o bobl yn gwybod y bydd Cymru’n cael ei effeithio mor ddrwg gan Brexit eithafol, a bod mwy o ddealltwriaeth am sut y bydd ein cymunedau’n dioddef, gallem weld pobl yn gwrthod cytundeb niweidiol.

Hwb i’r Dde

Mae Brexit wedi tynnu ynghyd carfannau o’r Sefydliad asgell-dde a’r dde eithafol. Mae criw hiliol, bots Rwsiaidd, Ysgrifenyddion Tramor, ffasgwyr, elfennau o’r cyfryngau Prydeinig a’r dde eithafol ar y Rhyngrwyd wedi rhyddhau ton o gasineb. Mae wedi agor y llifddorau i fwy o dicter, ofn ac ymrannu.

Rhoddwyd hwb di-gynsail gan Brexit i normaleiddio gwleidyddiaeth asgell-dde eithafol.

Er hyn i gyd, mae Llafur yn parhau i laesu dwylo a gwrthod ymladd yn erbyn y Brexit anhrefnus yma. Maent yn atal Pleidlais y Bobl.

Law yn llaw, mae’r Blaid Lafur a’r Torïaid yn delifro Brexit er bod y ddau’n gwybod y bydd yn gwneud niwed i’n gwlad ac i’n rhagolygon economaidd at y dyfodol.  Mae’r safiad yn cael eu wthio gan gyfleustod gwleidyddol.

Cymraes Ewropeaidd

Rwyf yn Gymraes Ewropeaidd.

Ni fydd Brexit byth yn dwyn fy hunaniaeth. Fodd bynnag, bydd yn dwyn swyddi pobl a chyfleuon i genedlaethau y dyfodol.

Mae Cymru’n wlad wych. Cenedl, rwy’n credu, gyda dyfodol yn Ewrop ac yn gysylltiedig â hi.

Ni ddylai ein cymunedau dosbarth gweithiol ysgwyddo’r anhrefn gostus a achosir gan raniadau’r blaid Dorïaidd.

Ein rhwymedigaeth yw dangos Cymru, mae ffordd well na hyn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *
You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>