Arweinydd Plaid Cymru yn ail-adrodd galwad am ‘Bleidlais y Bobl’ i atal Brexit eithafol sy’n cael ei lywio gan filiwnyddion hunanol

Mae Leanne Wood AC heddiw wedi ail-adrodd ei galwad am refferendwm cadarnhau ar unrhyw gytundeb terfynol gyda’r Undeb Ewropeaidd, gan amlygu’r ffaith fod cefnogwyr cyfoethog Brexit yn debygol o fod ar eu hennill tra bod gweithwyr cyffredin yn dal pen tryma’r baich. Dywedodd Ms Wood fod y ffordd mae Brexit yn cael ei weithredu yn ‘drychineb llwyr’, yn enwedig i Gymru, ac y dylai pobl gael y gair olaf am “fargen neu ddim o gwbl”.

Dywedodd Ms Wood nad galwad oedd hwn am ail-gynnal  refferendwm 2016. Plaid ddemocrataidd yw Plaid Cymru ac y mae’n derbyn y bleidlais honno; serch hynny, dywedodd , wrth i fwy a mwy o beryglon a phroblemau ddod i’r amlwg oherwydd diffyg cynllunio cyn ac ar ôl y refferendwm, mae’n rhaid i bobl gael cyfle i dderbyn neu i wrthod y ffordd y byddwn yn gadael. Gan bwysleisio mai’r hyn sy’n ganolog i ddemocratiaeth yw’r hawl i bobl newid eu meddwl, dadleuodd Ms Wood y gallai gwrthod roi cychwyn ar broses newydd fyddai’n cynnig ffordd yn ôl at aelodaeth o’r UE.

Aeth Ms Wood ymlaen i amlygu’r ffaith fod llawer o bleidwyr mwyaf croch Brexit yn bleidiol i bolisïau trethi isel, ac mai hwy sydd fwyaf tebyg o elwa o Brexit. Gyda’r DG yn gadael cyn gweithredu rheolau newydd yr UE ar osgoi talu trethi a’r posibilrwydd y cyflwynir toriadau treth yn y DG wedi Brexit, gallai’r cyfoethogion gael mwy o arian yn eu pocedi wedi Brexit, tra byddai’r economi yn gyffredinol a gweithwyr cyffredin yn dioddef gyda mwy fyth o lymder. “Mae’n rhaid i’r cymunedau a’r teuluoedd y bydd Brexit yn eu niweidio fwyaf” gael yr hawl i ddweud eu dweud ar gytundeb terfynol Brexit, meddai Ms Wood.

Bu Arweinydd Plaid Cymru yn gryf ei chefnogaeth i ymgyrch Pleidlais y Bobl, gan lofnodi eu llythyr agored oedd yn galw am refferendwm ar y cytundeb terfynol yn gynharach eleni.

Gan ategu ei galwad am Bleidlais y Bobl, dywedodd Leanne Wood:

“Gadewch i ni fod yn onest. Mae Brexit yn newyddion drwg i weithwyr, mae’n newyddion drwg i fusnesau. Gwyddom y bydd ei effaith ar Gymru yn waeth nac ar unman arall, bron.

“Po agosaf yr awn at adael yr UE, y mwyaf mae’n dod yn amlwg mai trychineb llwyr ydyw. Mae hyd yn oed Llywodraeth San Steffan bellach yn cyfaddef fod meddyginiaethau, cyfrifon banc a hyd yn oed gyflenwadau bwyd mewn perygl dan senario Dim Cytundeb.

“Hyd yn oed os deuir i gytundeb, does dim llawer o achos dathlu. Bydd biliynau yn diflannu o’n heconomi, a chollid cyfle i’r cenedlaethau i ddod oherwydd y Brexit eithafol sy’n cael ei hyrwyddo gan San Steffan.

“O’i roi yn syml, bargen neu beidio, bydd Cymru’n dlotach os gadawn yr UE. Rhaid i ni fod â’r hawl i wrthod cytundeb fydd yn niweidiol i’n heconomi a chael llwybr yn ôl i’r UE os bydd pobl yn y refferendwm hwnnw yn gwrthod y cytundeb a gynigir neu os digwydd iddynt fod wedi newid eu meddwl ers 2016.

“Bydd cost Brexit eithafol yn disgyn nid ar yr arweinyddion Gadael hynny a’u rhoddwyr sydd yn filiwnyddion, ond yn hytrach ar ysgwyddau gweithwyr cyffredin. Bydd y cyfoethogion ar eu hennill ganwaith, a hwythau wedi pedlera’r celwydd am Brexit er mwyn cael dyfodol rhydd o drethi iddynt hwy a’u cyfeillion. Wrth i’r UE gyflwyno mesurau i wrthweithio osgoi trethi ar yr un pryd ag y mae toriadau trethi ar y gorwel fel ymgais munud-olaf i gadw busnesau mawr yn y DG, allwn ni ddim gadael i’r ychydig breintiedig fydd yn elwa o Brexit Torïaidd eithafol adael y gweddill ohonom ar erchwyn y dibyn heb lais pellach ar y mater.

“Mae’n rhaid i’r cymunedau a’r teuluoedd y bydd cytundeb Brexit eithafol neu ddim cytundeb yn effeithio arnynt waethaf gael yr hawl i’w wrthod.”

* Llythyr Pleidlais y Bobl
* Manylion am reoliadau osgoi trethi’r UE:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *
You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>