Rhaid i dai i bobl leol fod yn “hawl yn hytrach na braint” meddai Leanne Wood

Leanne Wood

Angen “chwyldro ym maes tai” er mwyn rhwystro’r genhedlaeth nesaf rhag cael eu prisio allan o ardaloedd gwledig

Mae Leanne Wood wedi galw am “chwyldro ym maes tai” ac wedi gwneud addewid y byddai hi’n cyflwyno mesurau i rwystro pobl leol rhag cael eu prisio allan o ardaloedd gwledig pan yn Brif Weinidog,

Mae’r pecyn yn cynnwys argymhellion i gynghorau ymateb i alwadau am dai lleol ar sail angen a mesurau treth blaengar newydd

Nod y cynllun tai cynhwysfawr hwn yw i ganiatau i gynghorau i gael gwared ar restrau aros tai cymdeithasol o fewn degawd a galluogi Cymru i ddod yn arweinydd byd yn yr egin-ddiwydiant tai cynaliadwy, ecogyfeillgar ac isel eu heffaith. Mae’r argymhellion yn cynnwys mesurau newydd i gynghorau sefydlu tai dros dro sydd yn gallu cael eu tynnu lawr neu eu symud i leoliadau eraill fel mae galw yn newid dros amser.

Mae arweinydd Plaid Cymru hefyd wedi galw am i Senedd Cymru gael rhagor o bwerau dros dreth etifeddiant fel y gall system debyg i Yswiriant Gwladol gael ei gyflwyno ble byddai’r swm a delir yn cael ei gysylltu a’r nifer o flynyddoedd y bu’r unigolyn yn byw a gweithio yng Nghymru cyn ymddeol.

Byddai’r system newydd yn ffafrio’r rhai sydd wedi cyfrannu i’r economi leol.

Wrth lawnsio’r argymhellion polisi, meddai Leanne Wood:

“Mae llywodraethau yn San Steffan ac yng Nghymru wedi methu adeiladu tai newydd digonol a chanlyniad hynny yw bod yr economi wedi ei seilio ar brisiau tai artiffisial o uchel. Mae pobl gyffredin yn parhau i gael eu dal yn ceisio talu rhenti a morgeisi sydd tu hwnt i’w cyrraedd.

“Mewn llawer o ardaloedd o Gymru mae teuluoedd ifanc yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai gan berchnogion eiddo cyfoethog sydd yn aml wedi symud i ardaloedd gwledig tua diwedd eu bywyd gwaith. Mae’r ‘boneddigeiddio’ yma yn cloffi cymunedau gwledig Cymru ble mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi i ganfod tai a gwaith yn rhywle arall. Wrth i’r genhedlaeth nesaf gael ei gwthio allan o’n cymunedau gwledig mae niwed yn digwydd i’n heconomi, i’r iaith Gymraeg ac i’n cymunedau yn gyffredinol.

“Mae dod yn genedl annibynnol yn dibynnu ar ein gallu i adeiladu economi wledig gynaliadwy yng Nghymru. Golyga hyn lywodraeth Plaid Cymru sydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad i dai addas a fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain, yn hytrach na gadael materion mor bwysig i fympwy datblygwyr sydd yna’n bennaf i wneud elw cyflym.

“Byddem hefyd yn archwilio dulliau o gysylltu treth etifeddiant ar eiddo gyda’r amser y mae rhywun wedi ei dreulio yn byw a gweithio yng Nghymru – fel bod y rhai sydd wedi cyfrannu fwyaf i’n heconomi yn ysgwyddo’r baich leiaf ac yn meddu ar rywbeth i’w drosglwyddi i’w plant yn y cymunedau rheiny y maen nhw wedi eu gwasanaethu.

“Dydi hyn ddim yn gymhleth nag yn ddadleuol – mae’n rhaid i dai i bobol leol fod yn hawl yn hytrach nag yn fraint.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *
You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>