“safbwynt cyfaddawd” yn gorfod newid medd Arweinydd Plaid Cymru

Leanne Wood

Addewid gan Wood i adolygu safbwynt Plaid ar ynni niwclear

Mae Leanne Wood wedi cadarnhau y byddai Plaid Cymru yn chwilio am atebion amgen yn lle ynni niwclear pan gaiff ei harweinyddiaeth ei hadnewyddu ym mis Medi.

Daw’r symudiad yn sgil adroddiadau newyddion o Japan sy’n awgrymu bod buddsoddwr allweddol yn tynnu allan o brosiect Wylfa B ar Ynys Môn, cynllun sydd eisioes wedi wynebu helyntion ariannol. Rhybuddiodd arweinydd Plaid Cymru ei bod yn “beryglus” i uchelgeisiau economaidd yr ardal fod yn ddibynnol ar gynllun sydd “angen addewidion cynyddol am gyllid oddi wrth lywodraeth San Steffan ac sy’n dibynnu hefyd ar fympwyon cyfnewidiol corfforaethau mawr byd-eang.

Yr wythnos ddiwethaf roedd Leanne Wood yn bresennol mewn cyfarfod ymgyrch cyhoeddus ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, lle dywedodd mai polisi gwrth-niwclear fu gan Blaid Cymru erioed, ond bod pryderon am swyddi lleol wedi arwain at fabwysiadu “safbwynt cyfaddawd”. Dywedodd fod angen i hyn newid, gan gyhoeddi y bydd y blaid yn cynnal “adolygiad llawn o’n polisïau ynni” os caiff ei hail-ethol.

Dywedodd nad ydi safbwynt Plaid Cymru bellach yn adlewyrchu realiti’r sefyllfa ar lawr gwlad yn yr ardal, gan nodi pryderon am yr amcangyfrif o 3,000 unedau tai rhent – sef y nifer fydd eu hangen – yn ôl amcangyfrifon Horizon ei hun – ar gyfer cyfnod adeiladu cynllun Wylfa B.

Meddai Leanne Wood:

“Mae ynni niwclear wedi bod yn fater anodd i Blaid Cymru. Rydym yn gwrthwynebu ynni niwclear ond wedi cael ein gorfodi i fantoli hynny a’r angen i ddenu swyddi â chyflogau da i’n hardaloedd gwledig. Mae’r pryderon yma wedi creu safbwynt cyfaddawd a pheidio gwrthwynebu adnewyddu safleoedd niwclear sydd yn bodoli eisoes. Mae hyn wedi gosod y rhai sydd â chonsyrn am yr iaith ac am yr amgylchedd yn erbyn ei gilydd.
“Hyd yn oed os yw cynllun Wylfa B yn llwyddo i sicrhau’r gefnogaeth ariannol sydd ei angen arno – sydd yn edrych yn llai tebygol bob dydd – mae pryder cynyddol ymhlith trigolion Ynys Môn y bydd angen mewnlif o weithwyr o’r tu allan ar gyfer y cyfnod adeiladu. Bydd pwysau annioddefol yn cael ei roi ar seilwaith, tai a gwasanaethau lleol. Mae’n anodd gweld sut mae’r ddadl ‘swyddi i bobl leol’ yn parhau i fod yn ddilys yn 2018.

 “Mae Ynys Môn yn gartref i gynlluniau adnewyddol cyffrous iawn. Mae gan Gymru gyfan y potensial i fod yn arweinydd byd-eang o ran datblygu technolegau ynni diogel a glân. Rydw i’n awyddus i wneud y gorau o’n talentau peirianneg ac o adnoddau ymchwil prifysgolion er mwyn i’r cynlluniau blaengar yma ddwyn ffrwyth a chreu gwaith tymor-hir a chynaliadwy i’n cymunedau.

 “Os caf fy ail-ethol yn arweinydd, byddaf yn cynnal adolygiad llawn o’n polisïau ynni ac yn comisiynu astudiaeth ar effeithiau negyddol posib prosiect niwclear ar dai, yr economi leol a’r Gymraeg ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd sydd ddim ond dros y dŵr.

 “Mae’r ffaith bod San Steffan wedi tynnu’r plwg ar Forlyn Llanw Abertawe tra’n bwrw ymlaen efo Wylfa B ar unrhyw gost, fe ymddengys, yn arwyddocaol o broblem Cymru. Nid yw dyfodol Cymru rydd wedi ei seilio ar niwclear. Mae’n rhaid inni gael rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain er mwyn inni gael dyfodol Gwyrdd, yn hytrach na chael ein clymu wrth eliffantod gwynion San Steffan”.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *
You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>