Bygythiad Brexit i’n cymunedau dosbarth gweithiol

Leanne Wood

Medi 2018

Does gan Brexit fawr ddim i’w wneud ag Ewrop.

Mae ganddo bopeth i’w wneud â‘r rhaniadau o fewn y Blaid Dorïaidd. Mae ganddo bopeth i’w wneud â phobl sydd heb fawr i golli yn cicio sefydliad sydd wedi eu methu. Mae ganddo bopeth i’w wneud â narcissists fel Boris Johnson a Farage yn dweud celwydd ar ben celwydd wrth geisio hyrwyddo’i hunain.

Er hyn, bydd Cymru’n dal i wynebu’r canlyniadau cymdeithasol ac economaidd trychinebus o gael ein llusgo oddiwrth Ewrop.

Dyw “Brexit yn golygu Brexit” mewn gwirionedd yn golygu dim. Ond dyma’r math o ddadlau gwag sydd wedi’n gadael ni o fewn dyddiau o adael yr Undeb Ewropeaidd a dim math o gynllun ymarferol.

Nid yw’n ymddygiad arferol i ymfalchïo mewn rhybudd y gallai eich methiannau eich hun arwain at brinder bwyd, meddygaeth ac ynni. Dros yr haf, fodd bynnag, dyna ry’n wedi’i weld – mae llywodraeth Torïaidd San Steffan yn rhybuddio y bydd Dim Cytundeb yn golygu’r math o gynllunio y byddwn yn ei ddisgwyl adeg rhyfel.

Mae’r Brexitwyr yn hoff iawn o ramantu am ysbryd yr Ail Ryfel Byd – efallai fod y rhamantu hefyd yn cynnwys defnyddio llyfrau dogni a blackouts.

Llymder

Os cawn ni gytundeb ai peidio, bydd biliynau’n cael eu gwasgu o’r economi, swyddi’n cael eu colli a chyflogau’n crebachu.

Nid swyddi bras colofnwyr y Telegraph na bancwyr fydd yn cael eu colli. Fel y degawd o lymder a fu, nid y rhai a greodd yr anhrefn fydd yn ysgwyddo’r baich.

O Abertawe i Brestatyn, o Gaerdydd i Geredigion, pobl dosbarth gweithiol fydd yn talu am strancio Sefydliad sydd wedi arwain at Brexit – a’r math o Brexit sy’n cael ei arddel.

Mae llymder eisoes yn lladd ein cymunedau ac yn llythrennol lladd llawer o’n dinasyddion ar yr incwm isaf.

Gyda biliynau o bunnoedd yn cael eu colli o economi Cymru, bydd Brexit yn atgyfnerthu Llymder. Mae’r ddau yn rhedeg law yn llaw.

Brexit y Biliwnydd 

Rydyn ni’n bwrw ymlaen â Brexit y Biliwnydd.

Mae cronfa gyfalaf Rees-Mogg yn symud i Iwerddon. Mae Redwood yn cynghori ei gleientiaid yn y Ddinas i symud eu harian i’r UE. Ac mae Farage yn cael pasbortau Almaeneg iddo ef a’i deulu.

Bydd gadael Ewrop yn fuddiol iawn i’r rhai sydd am elwa drwy bedlera celwydd Brexit wrth fynd ar ôl dyfodol o drethi isel iddynt hwy a’u ffrindiau.

Wrth i’r UE gyflwyno mesurau atal osgoi treth, ar yr un pryd â thorri trethi mewn ymdrech i gadw busnesau mawr, ni allwn adael i’r rhai breintiedig a fydd yn elwa o Brexit eithafol y Toriaid arwain y gweddill ohonom dros y dibyn.

Mae’n rhaid i’r cymunedau a’r teuluoedd sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan gytundeb eithafol – neu ddim cytundeb o gwbl – fod â’r hawl i’w wrthod.

Pleidlais y Bobl – cymryd penderfyniad democrataidd

Mae Pleidlais y Bobl yn cynnig ffordd i osgoi’r anhrefn hwn, ffordd i osgoi difrod trychinebus Brexit y Biliwnydd a fydd yn digwydd os awn ni lawr y llwybr presennol.

‘Gwrth-ddemocrataidd’ yw’r floedd yn erbyn y rhai ohonom sy’n cefnogi Pleidlais y Bobl. Sut y gall mwy o bleidleisio, mwy o ddemocratiaeth a mwy o lais i’r bobl fod yn ‘wrth-ddemocrataidd’?

Mae llawer o bobl yn fwy gwybodus nawr nag oeddent pan gynhaliwyd refferendwm Brexit. Mae gallu gweld sut mae’r Torïaid wedi ymdrin â’r trafodaethau, a gallu gweld celwydd noeth y Brexitwyr yn siŵr o olygu y bydd pobl yn trin refferendwm ar y fargen olaf mewn ffordd wahanol iawn i’r refferendwm aros / gadael.

Nawr bod mwy o bobl yn gwybod y bydd Cymru’n cael ei effeithio mor ddrwg gan Brexit eithafol, a bod mwy o ddealltwriaeth am sut y bydd ein cymunedau’n dioddef, gallem weld pobl yn gwrthod cytundeb niweidiol.

Hwb i’r Dde

Mae Brexit wedi tynnu ynghyd carfannau o’r Sefydliad asgell-dde a’r dde eithafol. Mae criw hiliol, bots Rwsiaidd, Ysgrifenyddion Tramor, ffasgwyr, elfennau o’r cyfryngau Prydeinig a’r dde eithafol ar y Rhyngrwyd wedi rhyddhau ton o gasineb. Mae wedi agor y llifddorau i fwy o dicter, ofn ac ymrannu.

Rhoddwyd hwb di-gynsail gan Brexit i normaleiddio gwleidyddiaeth asgell-dde eithafol.

Er hyn i gyd, mae Llafur yn parhau i laesu dwylo a gwrthod ymladd yn erbyn y Brexit anhrefnus yma. Maent yn atal Pleidlais y Bobl.

Law yn llaw, mae’r Blaid Lafur a’r Torïaid yn delifro Brexit er bod y ddau’n gwybod y bydd yn gwneud niwed i’n gwlad ac i’n rhagolygon economaidd at y dyfodol.  Mae’r safiad yn cael eu wthio gan gyfleustod gwleidyddol.

Cymraes Ewropeaidd

Rwyf yn Gymraes Ewropeaidd.

Ni fydd Brexit byth yn dwyn fy hunaniaeth. Fodd bynnag, bydd yn dwyn swyddi pobl a chyfleuon i genedlaethau y dyfodol.

Mae Cymru’n wlad wych. Cenedl, rwy’n credu, gyda dyfodol yn Ewrop ac yn gysylltiedig â hi.

Ni ddylai ein cymunedau dosbarth gweithiol ysgwyddo’r anhrefn gostus a achosir gan raniadau’r blaid Dorïaidd.

Ein rhwymedigaeth yw dangos Cymru, mae ffordd well na hyn.

Arweinydd Plaid Cymru yn cyflwyno gweledigaeth i amddiffyn ffermydd Cymru er budd cenedlaethau’r dyfodol

Leanne Wood yn galw am Fanc Tir Amaethyddol Cymru

Cyn ymweld â Sioe Môn, galwodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, am Fanc Tir Amaethyddol i amddiffyn ffermwyr a chymunedau gwledig er budd cenedlaethau’r dyfodol.

 

Mae Ms Wood wedi galw am system ariannu amaethyddol newydd a fyddai’n darparu morgeisi ar gyfradd llog isel a sero i ffermwyr sy’n profi anawsterau a newydd-ddyfodiaid i fyd amaeth. Yn rhan o’r cynllun, mae Arweinydd Plaid Cymru hefyd wedi cynnig mecanweithiau fyddai’n galluogi ffermwyr sy’n denantiaid i brynu eu ffermydd drwy drefniant fforddiadwy, ac i’r Banc Tir brynu ffermydd newydd sydd ar y farchnad i’w rhentu am bris isel i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.

Gan adeiladu ar bolisi Plaid Cymru i gyflwyno Incwm Sylfaenol i Ffermwyr, dywedodd Ms Wood y byddai’r pecyn hwn o bolisïau yn creu “tarian genedlaethol i amddiffyn ein ffermydd bach a chanolig”.

“Mae’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb yn ein hwynebu, a dyfodol cymorthdaliadau amaethyddol o dan fygythiad, felly mae’n rhaid inni weithredu i sicrhau dyfodol ffyniannus i ffermydd Cymru.

 “Rydym eisoes yn gweld adroddiadau mynych fod dyfodol ffermydd teulu Cymru o dan fygythiad, ac y gallai’r ffermydd hynny ddiflannu hyd yn oed o fewn y degawd nesaf.  Rwy’n ofni y byddai cwmnïau mawr a chronfeydd gwarchod yn manteisio ar y cyfle i brynu darnau enfawr o dir amaethyddol Cymru.

 “Byddai hyn yn golygu trosglwyddo un o’n hadnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr ar raddfa enfawr, o ddwylo’r nifer fawr o bobl yn ein cymunedau i ddwylo nifer fach o fuddsoddwyr tu hwnt o gyfoethog nad oes ganddynt les busnesau gwledig na’n diwylliant wrth eu calon.

 “Byddai creu Banc Tir Amaethyddol yn fodd i gynnig morgeisi a benthyciadau ar gyfradd llog isel a sero i ffermwyr sy’n profi anawsterau ac i newydd-ddyfodiaid i fyd amaeth. “Byddai’r Banc hefyd yn helpu ffermwyr sy’n denantiaid ac sydd am brynu eu fferm eu hunain drwy drefniant fforddiadwy, a hefyd yn cadw portffolio o ffermydd i’w cynnig am rent isel i newydd-ddyfodiaid i’r sector ffermio. Byddem yn amddiffyn ffermio yng Nghymru er budd cenedlaethau’r dyfodol.

 “Mae Banc Tir Cymru yn cydredeg â chynnig Plaid Cymru i ddarparu incwm sylfaenol i ffermwyr, er mwyn creu dyfodol mwy cynaliadwy wedi inni gefnu ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin a phan ddaw’r gyfundrefn gymorthdaliadau gyfredol i ben. “Gyda’i gilydd, byddai’r polisïau hyn yn ein galluogi i greu tarian genedlaethol i amddiffyn ein ffermydd bach a chanolig er budd cenedlaethau sydd i ddod.”

 

Arweinydd Plaid Cymru yn ail-adrodd galwad am ‘Bleidlais y Bobl’ i atal Brexit eithafol sy’n cael ei lywio gan filiwnyddion hunanol

Mae Leanne Wood AC heddiw wedi ail-adrodd ei galwad am refferendwm cadarnhau ar unrhyw gytundeb terfynol gyda’r Undeb Ewropeaidd, gan amlygu’r ffaith fod cefnogwyr cyfoethog Brexit yn debygol o fod ar eu hennill tra bod gweithwyr cyffredin yn dal pen tryma’r baich. Dywedodd Ms Wood fod y ffordd mae Brexit yn cael ei weithredu yn ‘drychineb llwyr’, yn enwedig i Gymru, ac y dylai pobl gael y gair olaf am “fargen neu ddim o gwbl”.

Dywedodd Ms Wood nad galwad oedd hwn am ail-gynnal  refferendwm 2016. Plaid ddemocrataidd yw Plaid Cymru ac y mae’n derbyn y bleidlais honno; serch hynny, dywedodd , wrth i fwy a mwy o beryglon a phroblemau ddod i’r amlwg oherwydd diffyg cynllunio cyn ac ar ôl y refferendwm, mae’n rhaid i bobl gael cyfle i dderbyn neu i wrthod y ffordd y byddwn yn gadael. Gan bwysleisio mai’r hyn sy’n ganolog i ddemocratiaeth yw’r hawl i bobl newid eu meddwl, dadleuodd Ms Wood y gallai gwrthod roi cychwyn ar broses newydd fyddai’n cynnig ffordd yn ôl at aelodaeth o’r UE.

Aeth Ms Wood ymlaen i amlygu’r ffaith fod llawer o bleidwyr mwyaf croch Brexit yn bleidiol i bolisïau trethi isel, ac mai hwy sydd fwyaf tebyg o elwa o Brexit. Gyda’r DG yn gadael cyn gweithredu rheolau newydd yr UE ar osgoi talu trethi a’r posibilrwydd y cyflwynir toriadau treth yn y DG wedi Brexit, gallai’r cyfoethogion gael mwy o arian yn eu pocedi wedi Brexit, tra byddai’r economi yn gyffredinol a gweithwyr cyffredin yn dioddef gyda mwy fyth o lymder. “Mae’n rhaid i’r cymunedau a’r teuluoedd y bydd Brexit yn eu niweidio fwyaf” gael yr hawl i ddweud eu dweud ar gytundeb terfynol Brexit, meddai Ms Wood.

Bu Arweinydd Plaid Cymru yn gryf ei chefnogaeth i ymgyrch Pleidlais y Bobl, gan lofnodi eu llythyr agored oedd yn galw am refferendwm ar y cytundeb terfynol yn gynharach eleni.

Gan ategu ei galwad am Bleidlais y Bobl, dywedodd Leanne Wood:

“Gadewch i ni fod yn onest. Mae Brexit yn newyddion drwg i weithwyr, mae’n newyddion drwg i fusnesau. Gwyddom y bydd ei effaith ar Gymru yn waeth nac ar unman arall, bron.

“Po agosaf yr awn at adael yr UE, y mwyaf mae’n dod yn amlwg mai trychineb llwyr ydyw. Mae hyd yn oed Llywodraeth San Steffan bellach yn cyfaddef fod meddyginiaethau, cyfrifon banc a hyd yn oed gyflenwadau bwyd mewn perygl dan senario Dim Cytundeb.

“Hyd yn oed os deuir i gytundeb, does dim llawer o achos dathlu. Bydd biliynau yn diflannu o’n heconomi, a chollid cyfle i’r cenedlaethau i ddod oherwydd y Brexit eithafol sy’n cael ei hyrwyddo gan San Steffan.

“O’i roi yn syml, bargen neu beidio, bydd Cymru’n dlotach os gadawn yr UE. Rhaid i ni fod â’r hawl i wrthod cytundeb fydd yn niweidiol i’n heconomi a chael llwybr yn ôl i’r UE os bydd pobl yn y refferendwm hwnnw yn gwrthod y cytundeb a gynigir neu os digwydd iddynt fod wedi newid eu meddwl ers 2016.

“Bydd cost Brexit eithafol yn disgyn nid ar yr arweinyddion Gadael hynny a’u rhoddwyr sydd yn filiwnyddion, ond yn hytrach ar ysgwyddau gweithwyr cyffredin. Bydd y cyfoethogion ar eu hennill ganwaith, a hwythau wedi pedlera’r celwydd am Brexit er mwyn cael dyfodol rhydd o drethi iddynt hwy a’u cyfeillion. Wrth i’r UE gyflwyno mesurau i wrthweithio osgoi trethi ar yr un pryd ag y mae toriadau trethi ar y gorwel fel ymgais munud-olaf i gadw busnesau mawr yn y DG, allwn ni ddim gadael i’r ychydig breintiedig fydd yn elwa o Brexit Torïaidd eithafol adael y gweddill ohonom ar erchwyn y dibyn heb lais pellach ar y mater.

“Mae’n rhaid i’r cymunedau a’r teuluoedd y bydd cytundeb Brexit eithafol neu ddim cytundeb yn effeithio arnynt waethaf gael yr hawl i’w wrthod.”

* Llythyr Pleidlais y Bobl
* Manylion am reoliadau osgoi trethi’r UE:

“safbwynt cyfaddawd” yn gorfod newid medd Arweinydd Plaid Cymru

Leanne Wood

Addewid gan Wood i adolygu safbwynt Plaid ar ynni niwclear

Mae Leanne Wood wedi cadarnhau y byddai Plaid Cymru yn chwilio am atebion amgen yn lle ynni niwclear pan gaiff ei harweinyddiaeth ei hadnewyddu ym mis Medi.

Daw’r symudiad yn sgil adroddiadau newyddion o Japan sy’n awgrymu bod buddsoddwr allweddol yn tynnu allan o brosiect Wylfa B ar Ynys Môn, cynllun sydd eisioes wedi wynebu helyntion ariannol. Rhybuddiodd arweinydd Plaid Cymru ei bod yn “beryglus” i uchelgeisiau economaidd yr ardal fod yn ddibynnol ar gynllun sydd “angen addewidion cynyddol am gyllid oddi wrth lywodraeth San Steffan ac sy’n dibynnu hefyd ar fympwyon cyfnewidiol corfforaethau mawr byd-eang.

Yr wythnos ddiwethaf roedd Leanne Wood yn bresennol mewn cyfarfod ymgyrch cyhoeddus ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, lle dywedodd mai polisi gwrth-niwclear fu gan Blaid Cymru erioed, ond bod pryderon am swyddi lleol wedi arwain at fabwysiadu “safbwynt cyfaddawd”. Dywedodd fod angen i hyn newid, gan gyhoeddi y bydd y blaid yn cynnal “adolygiad llawn o’n polisïau ynni” os caiff ei hail-ethol.

Dywedodd nad ydi safbwynt Plaid Cymru bellach yn adlewyrchu realiti’r sefyllfa ar lawr gwlad yn yr ardal, gan nodi pryderon am yr amcangyfrif o 3,000 unedau tai rhent – sef y nifer fydd eu hangen – yn ôl amcangyfrifon Horizon ei hun – ar gyfer cyfnod adeiladu cynllun Wylfa B.

Meddai Leanne Wood:

“Mae ynni niwclear wedi bod yn fater anodd i Blaid Cymru. Rydym yn gwrthwynebu ynni niwclear ond wedi cael ein gorfodi i fantoli hynny a’r angen i ddenu swyddi â chyflogau da i’n hardaloedd gwledig. Mae’r pryderon yma wedi creu safbwynt cyfaddawd a pheidio gwrthwynebu adnewyddu safleoedd niwclear sydd yn bodoli eisoes. Mae hyn wedi gosod y rhai sydd â chonsyrn am yr iaith ac am yr amgylchedd yn erbyn ei gilydd.
“Hyd yn oed os yw cynllun Wylfa B yn llwyddo i sicrhau’r gefnogaeth ariannol sydd ei angen arno – sydd yn edrych yn llai tebygol bob dydd – mae pryder cynyddol ymhlith trigolion Ynys Môn y bydd angen mewnlif o weithwyr o’r tu allan ar gyfer y cyfnod adeiladu. Bydd pwysau annioddefol yn cael ei roi ar seilwaith, tai a gwasanaethau lleol. Mae’n anodd gweld sut mae’r ddadl ‘swyddi i bobl leol’ yn parhau i fod yn ddilys yn 2018.

 “Mae Ynys Môn yn gartref i gynlluniau adnewyddol cyffrous iawn. Mae gan Gymru gyfan y potensial i fod yn arweinydd byd-eang o ran datblygu technolegau ynni diogel a glân. Rydw i’n awyddus i wneud y gorau o’n talentau peirianneg ac o adnoddau ymchwil prifysgolion er mwyn i’r cynlluniau blaengar yma ddwyn ffrwyth a chreu gwaith tymor-hir a chynaliadwy i’n cymunedau.

 “Os caf fy ail-ethol yn arweinydd, byddaf yn cynnal adolygiad llawn o’n polisïau ynni ac yn comisiynu astudiaeth ar effeithiau negyddol posib prosiect niwclear ar dai, yr economi leol a’r Gymraeg ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd sydd ddim ond dros y dŵr.

 “Mae’r ffaith bod San Steffan wedi tynnu’r plwg ar Forlyn Llanw Abertawe tra’n bwrw ymlaen efo Wylfa B ar unrhyw gost, fe ymddengys, yn arwyddocaol o broblem Cymru. Nid yw dyfodol Cymru rydd wedi ei seilio ar niwclear. Mae’n rhaid inni gael rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain er mwyn inni gael dyfodol Gwyrdd, yn hytrach na chael ein clymu wrth eliffantod gwynion San Steffan”.

 

Rhaid i dai i bobl leol fod yn “hawl yn hytrach na braint” meddai Leanne Wood

Leanne Wood

Angen “chwyldro ym maes tai” er mwyn rhwystro’r genhedlaeth nesaf rhag cael eu prisio allan o ardaloedd gwledig

Mae Leanne Wood wedi galw am “chwyldro ym maes tai” ac wedi gwneud addewid y byddai hi’n cyflwyno mesurau i rwystro pobl leol rhag cael eu prisio allan o ardaloedd gwledig pan yn Brif Weinidog,

Mae’r pecyn yn cynnwys argymhellion i gynghorau ymateb i alwadau am dai lleol ar sail angen a mesurau treth blaengar newydd

Nod y cynllun tai cynhwysfawr hwn yw i ganiatau i gynghorau i gael gwared ar restrau aros tai cymdeithasol o fewn degawd a galluogi Cymru i ddod yn arweinydd byd yn yr egin-ddiwydiant tai cynaliadwy, ecogyfeillgar ac isel eu heffaith. Mae’r argymhellion yn cynnwys mesurau newydd i gynghorau sefydlu tai dros dro sydd yn gallu cael eu tynnu lawr neu eu symud i leoliadau eraill fel mae galw yn newid dros amser.

Mae arweinydd Plaid Cymru hefyd wedi galw am i Senedd Cymru gael rhagor o bwerau dros dreth etifeddiant fel y gall system debyg i Yswiriant Gwladol gael ei gyflwyno ble byddai’r swm a delir yn cael ei gysylltu a’r nifer o flynyddoedd y bu’r unigolyn yn byw a gweithio yng Nghymru cyn ymddeol.

Byddai’r system newydd yn ffafrio’r rhai sydd wedi cyfrannu i’r economi leol.

Wrth lawnsio’r argymhellion polisi, meddai Leanne Wood:

“Mae llywodraethau yn San Steffan ac yng Nghymru wedi methu adeiladu tai newydd digonol a chanlyniad hynny yw bod yr economi wedi ei seilio ar brisiau tai artiffisial o uchel. Mae pobl gyffredin yn parhau i gael eu dal yn ceisio talu rhenti a morgeisi sydd tu hwnt i’w cyrraedd.

“Mewn llawer o ardaloedd o Gymru mae teuluoedd ifanc yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai gan berchnogion eiddo cyfoethog sydd yn aml wedi symud i ardaloedd gwledig tua diwedd eu bywyd gwaith. Mae’r ‘boneddigeiddio’ yma yn cloffi cymunedau gwledig Cymru ble mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi i ganfod tai a gwaith yn rhywle arall. Wrth i’r genhedlaeth nesaf gael ei gwthio allan o’n cymunedau gwledig mae niwed yn digwydd i’n heconomi, i’r iaith Gymraeg ac i’n cymunedau yn gyffredinol.

“Mae dod yn genedl annibynnol yn dibynnu ar ein gallu i adeiladu economi wledig gynaliadwy yng Nghymru. Golyga hyn lywodraeth Plaid Cymru sydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad i dai addas a fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain, yn hytrach na gadael materion mor bwysig i fympwy datblygwyr sydd yna’n bennaf i wneud elw cyflym.

“Byddem hefyd yn archwilio dulliau o gysylltu treth etifeddiant ar eiddo gyda’r amser y mae rhywun wedi ei dreulio yn byw a gweithio yng Nghymru – fel bod y rhai sydd wedi cyfrannu fwyaf i’n heconomi yn ysgwyddo’r baich leiaf ac yn meddu ar rywbeth i’w drosglwyddi i’w plant yn y cymunedau rheiny y maen nhw wedi eu gwasanaethu.

“Dydi hyn ddim yn gymhleth nag yn ddadleuol – mae’n rhaid i dai i bobol leol fod yn hawl yn hytrach nag yn fraint.”